6 Tach 2008
Ar 7 Tachwedd 2008 bydd cam nesaf gwaith ehangu M4 yn cychwyn a bydd y gwrthlif gorllewinol yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd rhwng cyffyrdd 30 a 32.
Bydd newidiadau i drefn y ffordd ar y lôn gerbydau tua’r gorllewin rhwng cyffyrdd 28 a 29 yn cychwyn ar 11 Tachwedd er mwyn adeiladu croesfan ar gyfer y gwrthlif dwyreiniol newydd.
Bydd newidiadau parhaus i drefn y ffordd i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 30 a 32 o 13 i 23 Tachwedd.
Bydd y gwrthlif dwyreiniol newydd rhwng cyffyrdd 30 a 29 yn cychwyn ar 24 Tachwedd.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan ehangu M4.
E-bostio ffrind