2 Chwef 2009
Mae Traffig Cymru, gwasanaeth gwybodaeth traffig a theithio Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynghori modurwyr ar draws Cymru i ddilyn ychydig o ganllawiau syml er mwyn sicrhau teithiau di-straen yn ystod y tywydd eira.
Mae Traffig Cymru, a leolwyd yng Nghaerdydd a Chonwy, yn monitro a rheoli 300km o briffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru drwy rwydwaith o 250 o gamerâu cylch cyfyng, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
"Mae ein tîm ymroddedig yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i sicrhau fod ein ffyrdd yn gweithredu mor effeithiol ac effeithlon ag sydd bosibl ar y cyd â'r Asiantaethau Cefnffyrdd", dywedodd Viv Collins, rheolwr Traffig Cymru.
"Helpwch ni i'ch helpu chi i osgoi tywydd gwael a thagfeydd gyda'r awgrymiadau syml hyn."
- Caniatewch ddigon o amser i gwblhau eich siwrnai bob amser.
- Cyn cychwyn ar eich siwrnai, ffoniwch linell wybodaeth Traffig Cymru ar 0845 602 602 0. Mae llinellau ar agor 24 awr y dydd a gallwch siarad ag un o'n gweithredwyr er mwyn cael y cyngor traffig diweddaraf.
- Gwrandewch ar yr adroddiadau traffig ar y radio i gael syniad o gyflwr y ffyrdd a gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau.
- Ewch i www.traffic-wales.com i gael lluniau o'n rhwydwaith o gamerâu a gwybodaeth traffig amser-real. Yn ogystal, gallwch hefyd gofrestru i gael negeseuon SMS personoledig a rhybuddion traffig drwy e-bost.
- Cofiwch sylwi ar arwyddion negeseuon newidiol Traffig Cymru ar rwydwaith y ffyrdd oherwydd gallant eich rhybuddio ynghylch damweiniau, ffyrdd sydd ar gau a gwyriadau.
- Ystyriwch baratoi pecyn gaeaf ar gyfer eich taith. Rydym yn awgrymu eich bod yn cynnwys ffôn symudol i'w ddefnyddio mewn argyfwng (gan sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon gwneud hynny), dillad cynnes, rhywfaint o fwyd a diod a hyd yn oed rhaw os yw eira trwm yn debygol.
- Cofiwch y gall iâ ar y ffyrdd gynyddu'r pellter stopio gymaint ag 85%, felly gwnewch yn siwr eich bod yn gadael digon o le rhwng eich cerbyd chi a'r cerbyd o'ch blaen gan osgoi symudiadau sydyn.
