Mewngofnodi Cymorth Cofrestru Nid ydych wedi mewngofnodi - Beth am gofrestru i dderbyn rhybuddion e-bost ac SMS?
An image of a dashboard

M4 Cyfyrdd 24 i 28 - Camerâu Cyflymder Cyfartalog

26 Awst 2009

Mae terfyn cyflymder dros dro o 50mya mewn grym ar hyd yr M4 rhwng cyffyrdd 24 (Y Coldra) a 28 (Parc Tredegar) tra bo gwaith yn cael ei gynnal i osod rhwystrau newydd yn y llain ganol ac i gyflwyno'r system terfyn cyflymder newidiol. Bydd system o gamerâu cyflymder cyfartalog yn cael ei chyflwyno cyn bo hir i wneud yn siwr bod gyrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder o 50mya.

Dyma'r tro cyntaf y bydd y system hon yn cael ei defnyddio ar ffyrdd Cymru, lle mae camerâu yn cofnodi cyflymder cyfartalog cerbydau rhwng nifer o fannau penodol. Mae camerâu cyflymder cyfartalog (camerâu SPECS) wedi cael eu defnyddio i wella diogelwch a llifau traffig mewn mwy na 180 o gynlluniau gwaith ffordd sylweddol yn y DU. Maent yn arbennig o effeithiol ar stribedi hir o ffordd, yn lleihau'r tebygrwydd o wrthdrawiadau ac yn cadw'r traffig i symud ar gyflymder cyson.

Bydd y camerâu cyflymder cyfartalog yn cael eu tynnu ymaith cyn gynted ag y bydd y gwaith ar rwystrau'r llain ganol a'r system terfyn cyflymder newidiol wedi dod i ben.

E-bostio ffrind