Mewngofnodi Cymorth Cofrestru Nid ydych wedi mewngofnodi - Beth am gofrestru i dderbyn rhybuddion e-bost ac SMS?
An image of a dashboard

Cwestiynau Cyffredin Fy Nhaith

Fy Nheithiau yw un o’r nodweddion arloesol newydd yn adran Gwybodaeth Traffig  gwefan Traffig Cymru. Gallwch gynllunio taith wedi’i phersonoli i’ch gofynion teithio eich hun.

Er mwyn defnyddio’r adnodd yma rhaid eich bod yn ddefnyddiwr cofrestredig.

Beth yw Taith?

Gallai Taith bersonol cael ei osod er mwyn dangos camerâu sydd yn dangos delweddau ar hyd eich taith.

Er enghraifft gallwch drefnu taith i’ch gwaith, i’ch cartref neu i ble bynnag yr ydych am deithio yn rheolaidd. Gallwch lwytho teithiau yn sydyn gan wneud hi’n haws ac yn fwy effeithlon i weld y camerâu.

Sut ydw i’n gosod taith?

Drwy chwythu mewn i’r map Gwybodaeth Traffig a dewis camera ar hyd eich llwybr. Yna cliciwch ar y ddelwedd camera ar yr ochr llaw dde neu’r botwm ‘ychwanegu botwm camera’ er mwyn ychwanegu’r camera i’ch taith. Bydd camerâu ychwanegol yn ymddangos yn awtomataidd islaw’r brif ddelwedd camera. Gallwch wedyn gweld y rhain yn syth drwy glicio ar y saethau glas chwith a de a’r brig y panel camera. Gallwch hefyd gwibio dros y camerâu ychwanegol i gael yr un canlyniad.

Pwysig: Cofiwch gadw’ch taith wedi i chi ei bersonoli.

Sut ydw i’n ychwanegu rhybuddion amser teithio i fy nhaith?

Amseroedd Teithio yw amcangyfrif o’r amser y daith rhwng dwy gyffordd ar draffordd yr M4. Ychwanegwch Amcangyfrifon Amseroedd Teithio drwy ddewis dwy gyffordd ar yr M4 a chlicio’r botwm ‘Ychwanegu’

Gallwch ychwanegu lan I 5 rhybudd y daith a hefyd gosod rhybuddion SMS ac E-bost. Gallwch anfon y rhain allan yn ystod amser penodol ac am ddiwrnodau amrywiol o’r wythnos.

Pwysig: Cofiwch gadw eich taith wedi i chi ychwanegu’r rhybuddion amser teithio. Bydd gofyn i chi ddilysu eich e-bost a’ch rhif ffôn cyn derbyn u gwasanaeth yma. Gallwch wneud hyn yn y dudalen gosodiadau.