Mewngofnodi Cymorth Cofrestru Nid ydych wedi mewngofnodi - Beth am gofrestru i dderbyn rhybuddion e-bost ac SMS?
An image of a drivers dashboard, driving through a tunnel

Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru

Darperir Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru drwy Bartneriaeth rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys. Mae’r asiantaeth yn gyfrifol am gynnal y rhwydwaith Cefnffyrdd yng Nghanolbarth Cymru sydd yn cynnwys 625.45 km o ffordd a 391 o strwythurau (pontydd, walydd a.y.b. ym Mhowys, Ceredigion a rhannau o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Merthyr Tudful.

Wrth ddosbarthu gwasanaeth yr Asiantaeth mae’r bartneriaeth yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol a gyda’r sector breifat a thrwy fynediad i rai gwasanaethau arbenigol drwy gytundebau fframwaith y Cyngor bartner a threfniadau’r sector breifat.

Lleolwyd Prif Swyddfa'r Asiantaeth yn Llandrindod, hwn hefyd yw prif swyddfa rhanbarth y De-ddwyrain. Mae hefyd swyddfeydd yn Aberaeron sef prif swyddfa ar gyfer rhanbarth y Gorllewin ac yn Y Trallwng sef prif swyddfa rhanbarth y Gogledd-ddwyrain. Mae gan bob rhanbarth Rheolwr Llwybr Ffyrdd a Cheidwad y ffyrdd sydd yn rheoli’r gweithiau ar gyfer cynhaliaeth y llwybrau yn y rhanbarth hynny. Mae hefyd gan yr Asiantaeth Cydgysylltwyr Amgylcheddol sydd yn darparu cyngor arbenigol ar faterion amgylcheddol ac sydd hefyd yn rheoli datblygiad cynlluniau amgylcheddol penodol.

Cysylltiadau

Llandrindod (Prif Swyddfa a swyddfa'r De-ddwyrain): 01597 826930
Aberaeron (Swyddfa'r Gorllewin): 01545 572 572
Welshpool (Swyddfa'r Gogledd-Ddwyrain): 01938 551 000
Tu allan i oriau'r Swyddfa: 0845 607 60 60

Am ragor o wybodaeth ar Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru, dilynwch y cysylltiad yma