Mewngofnodi Cymorth Cofrestru Nid ydych wedi mewngofnodi - Beth am gofrestru i dderbyn rhybuddion e-bost ac SMS?
An image of a dashboard

Terfyn Cyflymder Newidiol ar hyd yr M4

Beth yw cynllun terfyn cyflymder newidiol?

Mae’n defnyddio terfynau cyflymder newidiol i leihau tagfeydd. Mae synwyryddion yn mesur y cyflymder uchaf i gerbydau ar hyd yr holl ffyrdd. Caiff y cyflymder hwn ei arddangos ar arwyddion electronig.

Beth yw diben y cynllun terfyn cyflymder newidiol?

Diben y cynllun yw cynyddu capasiti’r draffordd a llif y traffig am 13km rhwng cyffyrdd 24 (y Coldra) a 28 (Parc Tredegar) yr M4.

Beth fydd y manteision?

Nod y prosiect hwn yw arbed arian drwy leihau nifer y damweiniau a chael amseroedd teithio mwy dibynadwy ar hyd y rhan benodol hon o’r M4.

Os bydd llai o dagfeydd a llai o bobl yn brecio’n galed, bydd ansawdd yr aer yn gwella yn yr ardaloedd ger yr M4.

Ar ba rannau o’r M4 fydd y cynllun yn effeithio?

Cyffyrdd 24 (y Coldra) i 28 (Parc Tredegar) yn Ne-ddwyrain Cymru.

map

Pam y rhan hon o’r M4?

Mae gormod o gerbydau yn defnyddio’r rhan hon ac mae nifer y damweiniau yn uwch na’r gyfradd gyfartalog genedlaethol ar draffyrdd oherwydd y graddiant ansafonol, troadau sydd â therfynau cyflymder cynghorol a nifer o droadau tynn lle mae gwelededd yn wael.

Hefyd, oherwydd twnelau Bryn-glas a thai cyfagos, nid yw’n bosibl lledu’r rhan hon o’r M4.

Beth yw cost y prosiect hwn?

£7 miliwn fydd cost y prosiect hwn.

A minnau’n yrrwr, pa newidiadau y byddaf yn eu gweld?

Gosodir gantrïau uwch ben pob lôn o’r draffordd ag arwyddion electronig arnynt yn dangos y terfyn cyflymder.

Codir arwyddion dangos uwch ben y draffordd bob 250 i 700 metr rhwng y gantrïau newydd a’r rhai presennol.

Gosodir camerâu gorfodi i sicrhau bod gyrwyr yn cydymffurfio â therfynau cyflymder.

Gosodir arwyddion dangos electronig ar hyd ffyrdd ymuno ac ymadael i wneud gyrwyr yn ymwybodol o’r cynllun. Gosodir arwyddion hefyd ar ddechrau ac ar ddiwedd y darn 13km o’r draffordd.

EB approach to tunnels 50

Llun arlunydd o’r ffordd tua’r dwyrain sy’n arwain at dwnelau Bryn-glas gyda cyfyngiad cyflymder o 50MYA.

EB approach to tunnels red X

Llun arlunydd o’r ffordd tua’r dwyrain sy’n arwain at dwnelau Bryn-glas gyda lonydd ar gau.

Beth a ddangosir ar yr arwyddion electronig?

Pan fydd yr arwyddion electronig yn cael eu defnyddio, byddant yn dangos y terfynau cyflymder priodol ar gyfer lefel y traffig, arwyddion cyfeiriadol a pha lonydd a ffyrdd sydd ar gau.

  • Arwydd gwag

blank_matrix

Ar gyfer pob lôn - mae rheolau arferol y draffordd yn gymwys ar gyfer y lôn hon.

  • Enghraifft o Derfyn Cyflymder Gorfodol

50_matrix

Ar gyfer pob lôn - bydd hyn yn dangos y cyflymder uchaf a ganiateir.

  • Saeth Wen â goleuadau sy’n fflachio

left_matrix

Ar gyfer pob lôn – ewch i’r lôn gywir yn ôl y cyfarwyddyd.

  • Croes Goch â Goleuadau’n Fflachio

stop_matrix

Ar gyfer pob lôn – ffordd ar gau.

Pryd fydd y gwaith adeiladu’n dechrau a gorffen?

Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Medi 2009 ac yn cael ei gwblhau erbyn Hydref 2010.

A fydd traffordd yr M4 yn cael ei chau yn ystod y gwaith adeiladu?

Fe fydd yna gaeadau ysbeidiol dros nos o’r ffordd mewn un neu ddau gyfeiriad wrth i waith cael ei wneud. Ar bob achlysur bydd y ffordd ar gau rhwng 8pm a 5.30am gyda'r dargyfeiriad wedi'u harwyddo'n llawn drwy arwyddion-post. Byddwn yn nodi’r achlysuron hyn ar wefan Traffig Cymru, ynghyd â’r llwybrau dargyfeiriol, a bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael drwy SMS ac e-bost (cliciwch yma i gofrestru) ac ar arwyddion electronig wrth ochr y ffordd. Gallwch hefyd gael gwybod mwy drwy wrando ar fwletinau traffig a theithio ar y radio.

Pwy sy’n gweithio ar y prosiect hwn?

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio â gwefan Traffig Cymru, ei gwasanaeth rheoli traffig a’i chontractwyr Balfour Beatty Civil Engineering.

Gyda phwy gaf i drafod y prosiect hwn yn fanylach?

Gallwch gysylltu â Swyddog Cyswllt y Cyhoedd VSL ar 07798 731 791 neu drwy m4vsl@bbcel.co.uk.